Perthyn i ddechrau'r 17g y mae Agincourt House, Rhif 1 Sgwâr Agincourt, Trefynwy, Sir Fynwy, Cymru. Mae'n adeilad nodedig gyda hanner ohono'n ffrâm bren.[1] Cofrestrwyd y tŷ hwn ym Mehefin 1952 fel adeilad Gradd II*.[2]
Dros y blynyddoedd mae'r adeilad wedi'i adfer gryn dipyn. Ceir y dyddiad 1624 ar y taclen, ar ddarn o bren.[1] Mae'r llythrennau blaen o bobty'r dyddiad yn perthyn i William Roberts: ei ŵyr a adferodd Tŷ Drybridge gerllaw.
Dengys fod yma dŷ ar y safle hwn ar fap 1610 gan John Speed. Tydy'r ffrynt presennol, fodd bynnag, ddim mor hen, gan ei fod yn perthyn i ddiwedd y 19ed ganrif.[4] O tua 1830 hyd at ddiwedd y 18ed ganrif, siop-bob-dim ydoedd (neu ironmongers) a'i berchennog oedd Josiah Coates a weithiai hefyd fel gofaint, clochydd a gwneuthurwr hoelion. Yn ôl pob tebyg, mae'r cyn Brif Weinidog John Major yn ddisgynnydd iddo. [angen ffynhonnell]