Afon yn ne-ddwyrain Califfornia ydy Afon Owain (Saesneg: Owens River) sydd oddeutu 120 milltir (193.1 km) o ran hyd. Mae'n llifo drwy Ddyffryn Owain rhwng wyneb dwyreiniol Sierra Nevada a wyneb gorllewinol Mynyddoedd Inyo. Llifa'r afon yn ei blaen i Lyn Owain, sydd ers 1913 yn llyn sych oherwydd fod system ddŵr Los Angeles wedi dargyfeirio dŵr yr afon.
Yr enw
Enw gwreiddiol yr afon oedd Wakopee ac enw'r brodorion ar y llyn oedd "Pacheta".
Enwyd yr afon ar ôl y mapiwr Richard Owens, a oedd yn gartograffiwr ac a fapiodd yr ardal yn 1845 gyda thim a oedd hefyd yn cynnwys John C. Fremont.[1]