Afon Ouse (Sussex)

Afon Ouse
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSussex Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau50.7842°N 0.058°E Edit this on Wikidata
AberMôr Udd Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Uck Edit this on Wikidata
Dalgylch1,008 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd46 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad10 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
Map
Am afonydd eraill o'r un enw, gweler Afon Ouse.

Afon yn siroedd Gorllewin Sussex a Dwyrain Sussex, De-ddwyrain Lloegr, yw Afon Ouse. Mae'n tarddu ger Lower Beeding yng Ngorllewin Sussex, ac yn llifo tua'r dwyrain heibio Haywards Heath a thrwy Lewes cyn iddi gyrraedd y môr yn Newhaven. Mae Afon Uck, ei phrif isafon, yn ymuno â hi tua 8 km (5 mi) i'r gogledd o Lewes.

Am ganrifoedd byddai cychod yn llywio rhannau llanwol yr afon hyd at Lewes, 7 milltir o'r môr. Ar ddiwedd y 18g gwelodd nifer o dirfeddianwyr lleol gyfle i fuddsoddi mewn addasu'r afon i gario cychod camlas i'w rhannau uchaf. Gwnaeth y peiriannydd sifil William Jessop arolwg o'r afon, ac ar ôl cynnydd araf erbyn 1812 roedd yr afon yn fordwyol cyn belled â Balcombe, 22 milltir y tu hwnt i Lewes. Fodd bynnag, ni fu'r cynllun erioed yn llwyddiant mawr, a dyfodiad y rheilffordd oedd yr ergyd olaf. Erbyn 1868 daeth yr holl fasnach uwchben Lewes i ben, er bod cychod yn dal i ddod i fyny'r afon cyn belled â Lewes mor ddiweddar â'r 1950au.[1]

Cyfeiriadau

  1. "History of the Sussex Ouse Navigation" Archifwyd 2020-06-12 yn y Peiriant Wayback, Gwefan The Sussex Ouse Restoration Trust; adalwyd 12 Mehefin 2020