Afon yn ne-ddwyrain Sir Gaerfyrddin yw Afon Gwendraeth Fawr. Mae'n tarddu yn Llyn Llech Owain ac yn llifo trwy Cwm Gwendraeth Fawr i'r môr ger Cydweli.
Gyda'i chwaer-afon Afon Gwendraeth Fach, mae'n un o'r ddwy afon sy'n diffinio bro Cwm Gwendraeth.