Athletwr Prydeinig yw Adam Gemili (ganwyd 6 Hydref 1993).
Fe'i ganwyd yn Llundain. Enillodd y fedal arian yn y ras 100 medr yng Ngemau'r Gymanwlad 2014.
Enillodd y fedal aur yn y ras gyfnewid: 4 x 100 m yn y Pencampwriaeth Athledau y Byd 2017 yn Llundain, fel aelod y Tîm GB, gyda Chijindu Ujah, Danny Talbot a Nethaneel Mitchell-Blake. Ers 2020, mae e'n aelod o fwrdd y Gymdeithas Athletau[1]
Ym Mhencampwriaeth Athletau'r Byd 2022 yn Eugene, Oregon, cystadlodd Gemili yn rhagbrofion y ras gyfnewid 4 x 100 metr ond nid yn y rownd derfynol. Fel aelod o'r tîm, fe rannodd y fedal efydd.[2]
Cyfeiriadau