Ystyrir achos llys Altsasu yn achos hynod bwysig parthed diffiniad Sbaen o 'derfysgaeth'. Ar 15 Hydref2016 wedi ffrwgwd mewn tafarn yn nhref Altsasu, Nafarroa, Gwlad y Basg, arestiwyd wyth o lanciau lleol am anafu dau Guardia Civil, sef heddweision milwrol Sbaen a'u partneriaid. Dywedir iddynt ddioddef anafiadau "seicolegol".[1][2]
Ers Hydref 2016 cadwyd tri o'r wyth llanc yn y ddalfa, a throsglwyddwyd eu hachos o Iruña, Nafarroa ('Navarre' yn Sbaeneg), fel sy'n arferol i achosion o gamfihafio, i lys arbennig yn Madrid, yr Audiencia Nacional, a fydd yn eistedd ym Mai 2018. Rhyddhawyd y 5 arall ar fechniaeth. Trosglwyddwyd yr achos yn eu herbyn yn dilyn cais gan Tribunal Supremo de España, sef uchel lys Sbaen, sy'n cael ei reoli'n uniongyrchol gan Lywodraeth Sbaen, yn wahanol i weddill gwledydd Ewrop, ble mae llywodraeth a llysoedd bron yn gyfangwbwl ar wahân. Gwnaed y cais wedi i'r llys lleol yn Iruña daflyd y cyhuddiad o derfysgaeth allan drwy'r ffenest.[3]
Mae'r llanciau'n wynebu 62 mlynedd o garchar, ar wahân i un o'r llanciau sy'n wynebu 12 blwyddyn.[4]
Llawdrwm
Ymhlith y cyrff hynny sydd wedi mynegi cytuno gyda dulliau'r Llywodraeth yn yr achos yma mae plaid geidwadol Sbaen, Partido Popular a Ciudadanos (Basgeg: Hiritarrak) gan fynegi fod cysylltiad rhwng y llanciau ag ETA (Euskadi Ta Askatasuna), mudiad sy'n hawlio annibyniaeth i Wlad y Basg.[5][6][7] Yn ôl Amnest Rhyngwladol, fodd bynnag, ni ddylid ystyried y troseddwyr yn 'derfysgwyr' a bod y dull maen nhw'n cael eu trin gan Sbaen yn llawer rhy llawdrwm.[8]