Abel Morgan

Abel Morgan
Ganwyd1673, 1637 Edit this on Wikidata
Llanwenog Edit this on Wikidata
Bu farw16 Rhagfyr 1722 Edit this on Wikidata
Pennsylvania Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata

Roedd Abel Morgan (167316 Rhagfyr 1722) yn weinidog gyda'r Bedyddwyr Cymreig, yn fwyaf adnabyddus am y gwaith Cyd-goriad Egwyddorawl o'r Scrythurau a gyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth, y concordans Beiblaidd Cyntaf i'w ysgrifennu yn yr iaith Gymraeg a'r ail lyfr Cymraeg a argraffwyd yn America.[1]

Bywyd cynnar

Ganwyd Abel Morgan yn yr Allt-goch yng Nghwrtnewydd, plwyf Llanwenog, Sir Aberteifi yn 1673. Roedd yn fab i Morgan Rhydderch, diacon yn Rhydwilym. Symudodd Morgan i'r Fenni yn ieuanc, a mynd yn aelod yn eglwys y Bedyddwyr Llanwenarth. Dechreuodd ei yrfa fel pregethwr yn 1692 ac ordeiniwyd ef ym Mlaenau Gwent ym 1700, ar ôl derbyn galwad i bregethu yn y rhanbarth, c. 1696.[1]

Ymfudo i'r America

Penderfynodd Morgan ymfudo i'r Byd Newydd ym mis Medi 1711, er na gyrhaeddodd Ogledd America tan mis Chwefror y flwyddyn olynol. Glaniodd yn Nhalaith Pennsylvania a bu'n weinidog ar Eglwys y Bedyddwyr, Pennepack o'r cychwyn, eglwys Fedyddiwr hanesyddol yn Philadelphia sy'n un o'r eglwysi Bedyddwyr hynaf yng Ngogledd America. Roedd ei frawd, Enoch Morgan (1676-1740), eisoes yn weinidog i gynulleidfa'r Welsh Tract Baptist Church yn Swydd Newcastle, Delaware, a ddechreuodd o Eglwys y Bedyddwyr Pennepack yn dilyn anghytuno ynghylch yr arfer o arddodi dwylo.' [2]

Bywyd diweddarach a marwolaeth

Yn 1716, cyfieithodd Morgan gyfaddefiad ffurfiol o ffydd a lofnodwyd gan gynulleidfa Eglwys y Welsh Tract yn ymwneud ag athrawiaeth ac arferion swyddogol y Bedyddwyr.[3] Bu Morgan yn weinidog ar Eglwys y Bedyddwyr Pennepack hyd ei farwolaeth ar 16 Rhagfyr 1722, a chyhoeddwyd ei gyfieithiadau o'r concordans Beiblaidd yn Philadelphia ym 1730, wyth mlynedd ar ôl ei farwolaeth. Fe'i claddwyd yn wreiddiol yng nghefn Eglwys y Bedyddwyr Pennepack yn Lagrange Place. Symudwyd ei weddillion yn ddiweddarach i Fynwent Mount Moriah, Philadelphia.[1][4]

Bywyd personol a theulu

Priododd Morgan deirgwaith. Bu farw ei wraig gyntaf, Priscilla Powell, a'u mab yn ystod ei daith gyntaf i Ogledd America, ond goroesodd eu merch. Ailbriododd a Martha Burrows yn ddiweddarach, ac ar ôl ei marwolaeth priododd Judith Gooding née Griffiths, merch weddw Thomas Griffiths (1645–1725), a oedd yn weinidog cyntaf Eglwys Bedyddwyr y Welsh Tract am bum mlynedd ar hugain.[1] Roedd gan Morgan dri mab ac un ferch o'i wraig Judith Gooding.[1] Daeth un o'i feibion, hefyd yn Abel Morgan, yn bregethwr amlwg yn ystod y First Great Awakening a Rhyfel Annibyniaeth America .[4]

Ffynonellau

  • Y Cambrian (1881), tt.   188–190.
  • Conrad, Henry C., Records of the Welsh Tract Baptist Meeting: Pencader Hundred, New Castle County, Delware, 1701 to 1828 in Two Parts - Part One (Wilmington, Delaware: John M. Rogers Press, 1908), tt. 7–9.
  • Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru, Cyfrol II, tt.   276–277.
  • Geiter, Mary K., 'Morgan, Abel (1673–1722),' Oxford Dictionary of National Biography (Oxford: Oxford University Press, 2004) [5]
  • Hanes y Bedyddwyr ymhlith y Cymry, 1885, tt.   355–356.
  • Hanes y Bedyddwyr yng Nghymru, 1893-1907, Cyfrol III, t.   108.
  • Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cyfrol II, tt.   116–117.
  • Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cyfrol III, tt.   19–22.
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru, NLW MS 9258
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru, NLW MS 9267
  • Cofrestr eglwys Rhydwilym (mynediad o Lyfrgell Genedlaethol Cymru)
  • 'Y Cenhadwr Americanaidd sef cylchgrawn gwybodaeth buddiol a dyddorawl i Gymry America,' The American Messenger, 1880 (Efrog Newydd: Utica, 1840-1901), tt.   325–325.

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 George Owens, Benjamin (1959). "Morgan, Abel (1673-1722)". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 4 Hydref 2017.
  2. Conrad, Henry C. (1904). Records of the Welsh Tract Baptist Meeting: Pencader Hundred, New Castle County, Delware, 1701 to 1828 in Two Parts - Part One. John M. Rogers Press. tt. 7–9.
  3. Hall, Sharon (14 December 2014). "Historic American Churches: Welsh Tract Baptist Church". Digging-history.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-10-02. Cyrchwyd 4 October 2017.
  4. 4.0 4.1 Geiter, Mary K. (2004). "Morgan, Abel (1673-1722)". Oxforddnb.com. Cyrchwyd 4 October 2017.
  5. "Abel Morgan". Oxforddnb.com. Cyrchwyd 4 Hydref 2017.

Dolenni allanol