Cyfres o nofelau ffantasi gan yr awdur o AmericanwrGeorge R. R. Martin yw A Song of Ice and Fire (Cân Iâ a Thân). Dechreuodd Martin ysgrifennu'r gyfrol gyntaf, sef A Game of Thrones, yn 1991 a'i chyhoeddi yn 1996. Tyfodd y gyfres o lyfrau'n sydyn iawn o drioleg (fel a fwriadwyd yn wreiddiol) i saith llyfr. Cymerodd Martin bum mlynedd i ysgrifennu'r pumed (A Dance with Dragons), cyn ei chyhoeddi yn 2011. Yn 2015 roedd ar ganol sgwennu'r chweched nofel, sef The Winds of Winter.