Gêm fideo antur ar gyfer y PS2 a'r Wii yw Ōkami (大神 yn Siapaneg; golygir 'duw mawr' neu 'ysbryd mawr'; yn seinegol golygir 'blaidd' (狼)). Mae wedi ei gosod rhywbryd yn ystod hanes clasurol Siapan ac mae'r gêm yn cyfuno elfennau o chwedlau a llên gwerin Siapanëaidd er mwyn cyfleu stori am achub y wlad rhag dywyllwch. Y prif gymeriad yw Amaterasu; duwies yr Haul yng nghrefydd Shinto Siapan, sydd yn cymryd ffurf fleiddiast wen.
Y Gêm
Yn Ōkami mae'r chwaraewr yn rheoli'r fleiddiast Amaterasu. Mae'r prif stori yn linellol ond gyda sawl cwest opsiynol trwyddi; er enghraifft cewch fwydo anifeiliaid gwylltion ac adfywio coed meirw gan ddefnyddio brws wybrennol. Mae gan y brws hwn sawl bwrpas yn y gêm: creu gwynt; galw'r haul i dywynnu; torri coed a chreigiau; rheoli dŵr, tân, mellt a rhew; arafu amser ayyb. Gellir caffael y technegau brws trwy gwblhau cytserau a ysbrydolwyd gan y SidyddTsieineaidd.
Cymeriadau
Amaterasu (天照) neu Ammy - Prif gymeriad Ōkami. Hi yw duwies yr haul wedi'i hymgnawdoli ar ffurf fleiddiast wen.
Shiranui (白野威) - Ymgnawdoliad blaenorol Amaterasu, hefyd ar ffurf fleiddiast, can mlynedd cyn ddechrau stori'r gêm.
Waka (ウシワカ) - Proffwyd sydd yn ymyrryd â chwestau Amaterasu.
Issun (一寸) - Artist a chydymaith i Amaterasu sydd â diddordeb mewn casglu technegau'r brws wybrennol.
Orochi (大蛇) - Sarff ag wyth pen sydd yn un o'r brif elynion yn Ōkami.
Dilyniant
Cafodd ail gêm yng nghyfres Ōkami o'r enw Ōkamiden ei ddatblygu gan Mobile & Game Studio, Inc. a cyhoeddi gan Capcom i'r Nintendo DS yn Ewrop yn 2011.